Lleoliad:
Ar y safle - Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ
Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Tachwedd 2022
Amser:
12.30 -
14.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13038
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS (yn lle Alun Davies AS) James Evans AS Mabon ap Gwynfor AS (yn lle Peredur Owen Griffiths AS) |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dorian Brunt, Llywodraeth Cymru Bill Cordingley, Llywodraeth Cymru James Owen, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Anfonodd Alun
Davies AS a Peredur Owen Griffiths AS eu hymddiheuriadau. Roedd
Mike Hedges AS a Mabon ap Gwynfor yn dirprwyo ar eu rhan.
Datganodd James Evans fuddiant perthnasol.
2 Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)277 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.2 SL(6)281 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4.2 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydain-Iwerddon
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Prif Weinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog
5.3 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: SL(6)284 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ymateb.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y Cynnig.
7 Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau pellach ac ystyried materion o bwys i'w cynnwys yn ei adroddiad.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2, a chytunodd arnynt. Nododd y Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd arno.
11 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-34, a chytunodd arno.
12 SICM(6)1 - Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, a llythyr cyfatebol at y Pwyllgor Busnes, a chytunodd arnynt.